Ynghylch y rôl

Annwyl Ymgeisydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno a’n Uwch Dîm Arweinyddiaeth, yn adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr. Byddwch yn arwain ar faes eich portffolio, yn ogystal â chyfrannu’n weithredol i’n nodau arweinyddiaeth casgliadol er mwyn darparu gwelliannau hirdymor a gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r portffolios hyn yn cynnwys rhai o’n gwasanaethau mwyaf gweledol a phwysig. Byddwch yn cynghori’r Prif Weithredwr a’n Haelodau Etholedig ar faterion a strategaethau allweddol, yn ogystal ag arwain ar rai o’n gwaith newid pwysicaf, a phrosiectau partneriaeth eraill.

Bydd disgwyliadau’n uchel o fewn a thu allan i’r Cyngor ond bydd atebolrwydd a chefnogaeth gref yn cael ei ddarparu’n gyfunol.

Credwn fod Wrecsam a’r Cyngor fel sefydliad, yn lle gwych i fod, a bydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a bod yn rhan o’n dull Un Cyngor o adeiladu ar lwyddiant sefydliad deinamig sy’n datblygu.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais a byddwn yn cymryd rhan weithredol drwy gydol y broses recriwtio i sicrhau ein bod yn recriwtio rhywun sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd a’n hegwyddorion ac i’ch helpu chi i asesu ai Wrecsam yw’r lle iawn i chi.

Cyng. Mark Pritchard

Arweinydd

Ian Bancroft

Prif Weithredwr

Prif Weithredwr

Graddfa gyflog £90,421–£101,058 (Polisi Adleoli’n berthnasol)

Mae’n gyfnod cyffrous yn Wrecsam. Ar ddechrau cyfnod newydd i’r Cyngor, byddwch yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi’i gael hyd yn hyn, drwy arwain y gwasanaethau ar eu taith i wella, a bydd eich swydd chi’n hwyluso pethau gymaint â phosib. Mae gennym eisoes dîm cadarn o uwch swyddogion, a phob un yn cael ei gyflogi oherwydd ei arbenigedd, gwerthoedd, ffocws a’i ymroddiad i Wrecsam.

Bydd gennych brofiad o gefnogi a darparu rhyngwynebau gwasanaethau cwsmeriaid arloesol ar draws y sefydliad, gan gynnwys elfennau digidol.

Byddwch yn gallu arwain ar y broses ddemocrataidd a chefnogi aelodau i gyflawni eu rôl. Bydd hyn yn cynnwys cynghori’r aelodau am y swyddogaethau democrataidd, gan gynnwys swyddogaeth graffu’r Cyngor, gan alluogi’r Cyngor i fodloni ei ofynion statudol, a chyflawni rôl Swyddog Monitro’r Cyngor.

Byddwch yn goruchwylio’r broses o ddarparu cyngor cyfreithiol o ansawdd i aelodau etholedig ac uwch gydweithwyr, gan sicrhau eich bod yn gweld ac yn rheoli unrhyw risgiau cyfreithiol. Byddwch yn medru gwneud penderfyniadau doeth a byddwch yn deall y cyd-destun gwleidyddol, gan sicrhau bod penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud gyda’r wybodaeth gywir.

Byddwch yn unigolyn cadarn a byddwch yn dangos safonau proffesiynoldeb dilychwin yn y swydd proffil uchel hon.

Byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau heriol a datrys problemau wrth iddynt godi. Mae angen i chi weithredu mewn hinsawdd wleidyddol, felly bydd y sgiliau a’r profiad gennych i ddeall cyd-destun gwleidyddol Cymru, yn cynnwys materion datganoledig a materion cyfreithiol, ynghyd â gwerthfawrogi pwysigrwydd diwylliant Cymru.

Mae disgwyl i chi fod yn fodel rôl sy’n dangos y gwerthoedd a’r ymddygiad angenrheidiol ac arwain drwy esiampl. Bydd angen y sgiliau proffesiynol a’r wybodaeth i feithrin perthnasau a phartneriaethau effeithiol gydag ystod eang o fudd-ddeiliaid mewnol ac allanol. Byddwch yn llysgennad gwych, sy’n frwd dros gryfhau ein gwasanaethau yn Wrecsam ac yn cofleidio diwylliant a threftadaeth yr ardal a Chymru gyfan.

Ni fyddwch ofn gwneud pethau mewn ffordd wahanol a byddwch yn arwain eich gwasanaeth tuag at ein gweledigaeth o ffordd fodern o weithio.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.