Wrecsam – Lle i Fyw a Gweithio

Yr hen a’r newydd

Mae tref Wrecsam wedi bod yn ganolfan farchnad ers y cyfnod canoloesol, yn bell cyn iddi ddod i’r amlwg yn hwyr yn y ddeunawfed ganrif yn sgil y Chwyldro Diwydiannol.

Mae Wrecsam wedi llwyddo i gadw awyrgylch tref hanesyddol a chael budd hefyd o ganolfan siopa fodern ddi-draffig, a chanolfan o fri i’r celfyddydau, diwylliant a marchnadoedd, Tŷ Pawb a agorodd ym mis Ebrill 2018. Mae’r ganolfan hon yn ychwanegu at ein harlwy dreftadaeth gan gynnwys amgueddfa’r Fwrdeistref Sirol. Rydym yn falch o’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO – Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte – sy’n denu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o’r byd bob blwyddyn.

Yn ogystal â dau eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thri o saith rhyfeddod Cymru, mae gan Wrecsam enw da hefyd am gynnal digwyddiadau ar raddfa fawr, o gemau Cwpan y Byd Cynghrair Rygbi i gyngherddau pop awyr agored.  Mae gan Wrecsam Brifysgol fawr, Amgueddfa a chyfleusterau chwaraeon gwych – mae’n lle sy’n edrych i’r dyfodol.

Dinas, tref a chefn gwlad

Gall Wrecsam ddarparu’r lleoliad perffaith i ba bynnag ffordd o fyw sy’n apelio atoch.

Ar y naill law, mae digon o gefn gwlad o gwmpas i’w archwilio. Mae gan y Fwrdeistref Sirol Warchodfa Natur Genedlaethol, Ardal o Harddwch Cenedlaethol Eithriadol ac 11 o barciau gwledig. Mae tirwedd Gogledd Ddwyrain Cymru yn ddeniadol iawn, ac anaml y byddwch chi fwy nag ugain munud i ffwrdd o heddwch a llonyddwch bryniau Cymru. Ar y llaw arall, mae llai na awr i ffwrdd o ddwy ddinas flaenllaw yn Ewrop – Manceinion a Lerpwl – gyda’u cyfuniadau rhyngwladol o ddiwylliant, bywyd nos, siopa a chyfleusterau.

Mae Wrecsam yn ganolfan fasnachol fywiog gydag un o Stadau Diwydiannol mwyaf Ewrop yn gartref i enwau mawr fel JCB, Kelloggs, Hoya a Charchar y Berwyn. Rydym yn chwarae rhan allweddol yng Nghynghrair Merswy / Dyfrdwy ac wedi ein lleoli’n dda i elwa o botensial HS2 a’r Northern Powerhouse am flynyddoedd i ddod.  Gyda mynediad hwylus i’r rhwydwaith traffyrdd, nid ydym yn bell o sawl maes awyr a phorthladd, felly mae teithio i rannau eraill o’r DU neu’n bellach yn hawdd hefyd.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.